Learn Welsh newsletter - April 06

Apr 4, 2006 - with our new competition this month with a chance to win an MP3 player. ... help me with grammar questions, and are prepared to listen to me making mistakes in ... 3 sur 5. 04/04/2006 19:29. Look out for Learn Welsh beermats in pubs around ... Tell your friends about the monthly Learn Welsh newsletter.
25KB taille 32 téléchargements 263 vues
Learn Welsh newsletter - April 06

1 sur 5

Sujet: Learn Welsh newsletter - April 06 De: BBC Wales Date: Tue, 4 Apr 2006 12:35:02 +0100 Pour: [email protected] This is a bilingual newsletter / Mae hwn yn gylchlythyr dwyieithog CROESO Welcome to the April edition of the newsletter. Following the success of the Welsh Learners Day at Aberdare we've got another one lined up for you in May. Strike lucky with our new competition this month with a chance to win an MP3 player. You'll be able to download content from our website and learn Welsh wherever you go! Also in this month's edition: - Colin and Cumberland scoops an award - Learning the lingo: Varda Belkin, Israel - Events for learners COLIN AND CUMBERLAND Colin and Cumberland has won the website of the year award at the Celtic Film Festival, Falmouth, and has also been nominated for a BAFTA Cymru award. This learn Welsh website is ideal for complete beginners. http://www.bbc.co.uk/learnwelsh WELSH LEARNERS DAY - 13/5/06 Siarad Cymraeg? If you're a complete novice or if you'd like to brush up on your Welsh, come along to the Welsh Learners Day. Welsh language classes and workshops for all abilities will be held throughout the day, and some of BBC Wales' TV and radio stars will be there to help you along the way including Rhun ap Iorwerth, BBC Wales' Chief Political Correspondent and 'Good Morning Wales' presenter. Radio Cymru's Jonsi and Dei Tomos will teach you how to produce, present, research and contribute to a radio programme - all through the medium of Welsh, and singer and presenter Meinir Gwilym will sing some of her latest songs. Are you guilty of miming the National Anthem and hoping that your lips fit the words? To commemorate the 150th anniversary of the National Anthem, here's your chance to learn Hen Wlad fy Nhadau and sing it with pride. Members of the BBC National Chorus of Wales will be on hand to teach you the words and the music. Bring along your kids too and meet up with ! the Bobinogs. 9.30am, Saturday 13/5/06 at Coleg Menai, Llangefni. Register now at [email protected] LEARNING THE LINGO - VARDA BELKIN, ISRAEL Q: Where are you from? A: I'm London born and bred, but I've been living in Israel for more than twenty years. Q: Why did you want to learn Welsh? A: I'd always had an interest in Celtic history, and I was fascinated by Welsh culture coming back to life recently after centuries of suppression. Then one day I thought that I'd like to be able to read about Welsh history in Welsh. I found Mark Nodine's online Welsh course, then the BBC "Learn Welsh" website. Soon, learning the language itself had become a new ambition for me. Q: Does anyone else in your family speak Welsh? No one at all. I'm on my own with my Welsh studies. My kids even laugh at me because I won a Welsh nursery rhyme CD in the Catchphrase acrostic competition. Q: What made you realise you could do it? A: I haven't yet realised it! And living over 2000 miles from Wales makes practising conversation very difficult. On the other hand, I have been asked to contribute a few times to news programmes on Radio Cymru. These interviews have forced me to concentrate on trying to speak properly. I've also written two articles for the "Cymru'r Byd" website: http://www.bbc.co.uk/cymru/tramor/straeon/israel-wlpan.shtml and http://www.bbc.co.uk/cymru/tramor/straeon/gaza.shtml Q: Where do you learn Welsh? A: Mainly through books and the various Catchphrase courses. I think that without the Internet and audio files, I would not have been able even to begin learning Welsh.

04/04/2006 19:29

Learn Welsh newsletter - April 06

2 sur 5

I'm also in contact with a few Welsh speakers in Wales and one in Israel, and they help me with grammar questions, and are prepared to listen to me making mistakes in Welsh. Q: Any tips for learning the language? A: Use the language, as much as you know. I try to force myself to think in Welsh. Whenever a thought comes to mind, I try afterwards to express it in Welsh. Q: Any awful mistakes you've made while learning the language? A: Practising conversation is very difficult for me. So my biggest problem is when someone speaks to me in Welsh and I have no idea where one word ends and the next begins! Q: What's your favourite word No particular word, but there Calon Lân: "... Dim ond calon seeing the first road sign in

in Welsh? are a few phrases that I like. I love the chorus of lân all ganu ...". And I like crossing into Wales and Welsh: "Croeso i Gymru".

Q: Best bit about learning Welsh? A: Apart from my interest in learning a language which is so different from any other, I am happy to have met so many people on visits to Wales who are so warm and welcoming when I mention that I am learning Welsh. Anyone who is learning Welsh, I think, is aware that he or she belongs to a very small, but very select, "club". And new "members" are welcomed with so much help: I have been given books, tapes, and other things by other Welsh learners - and native speakers - who wanted nothing in return except the knowledge that they have helped one more person learn and appreciate the "language of heaven". Do you have an interesting story to tell? We'd love to hear from you. Email us at [email protected] EVENTS FOR LEARNERS 07 April - Learners Evening at the Cann Office Llangadfan - including a Quiz and entertainment. Teams of four - two learners and two Welsh speakers. 7.30pm 08 April - A day for Welsh learners at the Aman Continuing Education Centre, Cwmaman, Aberdare. Admission: £10 includes lessons, coffee and lunch. For further information please email [email protected] 9.30am - 4.00pm 12 April - Welsh language fashion show with Huw Rees at Coleg Sir Gâr, Pibwrlwyd Campus, Carmarthen. 7.30pm 22 April - A Welsh language walk around Caer Caradog A moderate walk of about 7 miles on Caer Caradog and some of the nearby hills, the mythical last fortifications of Caradog, with wonderful views over the Long Mynd and Wenlock Edge. Meet at 10.30 in the Easthope Road Car Park, Church Stretton - the second turning on the left from the railway station. Bring sandwiches and a drink, and £3 for the ticket machine. Leader - Bob Poole. OS Map Reference : 453936 (OS 1:50000, No.137) Contact: [email protected] 23 April - 'Clwb Garddio' gardening roadshow. An opportunity to question the presenters of Clwb Garddio - the Welsh language gardening programme. National Botanic Garden of Wales, Llanarthne. 9.30am - 5.00pm. 27 April - An evening for learners and an opportunity to learn Welsh over a pint or a glass of wine. Following the success of Menter Caerdydd's weekly coffee morning for learners, they hope to organise a monthly event for Welsh learners who are working during the day. 7.30pm - 8.30pm. For further information please contact Menter Caerdydd on 029 20 56 56 58 or visit their website - www.mentercaerdydd.org 27 April - An evening with Radio Cymru's Meinir Gwilym at Cofi Roc, Caernarfon. Also at Llangollen's International Pavilion, 29 April. 29 April - Concert featuring Catrin Finch, Rhys Taylor, B Natural, Cantorion Ysgol Penglais a Glan Davies. The Arts Hall, University of Wales, Lampeter. Tickets: £10/£7.50 7.30pm 29 April - An opportunity for you to practise your Welsh with other learners. Coleg Powys, Newtown. 9.00am - 1.00pm 29 April - Welsh Scrabble day, with plenty of opportunity to speak Welsh. Hen Gapel John Hughes, Pontrobert. 10.30am - 4.00pm SPRING COMPETITION

04/04/2006 19:29

Learn Welsh newsletter - April 06

3 sur 5

Look out for Learn Welsh beermats in pubs around Wales. There are six editions, each with an useful phrase in Welsh and English, including "Dy rownd di!" Does that phrase mean: (a) Cheers! (b) I'm thirsty! (c) Your round! ? Email your answer to [email protected] by April 25th. Good luck! INTRODUCE A FRIEND Tell your friends about the monthly Learn Welsh newsletter. http://www.bbc.co.uk/learnwelsh FEEDBACK Let us know what you think about our monthly newsletter. We'd love to hear from you. [email protected] UNSUBSCRIBE To unsubscribe, send an email to [email protected] with the following command in the body of the email message: unsubscribe learnwelsh DISCLAIMER The BBC cannot accept responsibility for the content of external sites nor for the services of external agencies. ------------CROESO Croeso i gylchlythyr mis Ebrill. Yn sgil llwyddiant Diwrnod y Dysgwyr yn Aberdâr rydym wedi trefnu un arall ar eich cyfer ym mis Mai! Mae gennym gystadleuaeth newydd a chyfle i ennill peiriant MP3. Bydd modd ichi lawrlwytho cynnwys o'r wefan a dysgu Cymraeg yn unrhyw le! Hefyd yn y rhifyn yma: - Colin and Cumberland yn ennill gwobr - Dysgu'r Iaith - Varda Belkin, Israel - Digwyddiadau ar gyfer dysgwyr COLIN AND CUMBERLAND 'Colin and Cumberland' enillodd wefan orau'r Wyl Ffilm Geltaidd eleni ac mae hefyd wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr BAFTA Cymru. Mae'r wefan dysgu Cymraeg yn addas iawn ar gyfer dysgwyr pur. Rhowch gynnig arni! http://www.bbc.co.uk/learnwelsh DIWRNOD Y DYSGWYR Os ydych yn newydd i'r iaith neu am wella eich Cymraeg dewch draw am ddiwrnod llawn o weithgareddau Cymraeg. Caiff dosbarthiadau a gweithdai ar gyfer pob gallu eu cynnal drwy'r dydd, a bydd rhai o wynebau cyfarwydd BBC Cymru yno i'ch cynorthwyo, gan gynnwys Rhun ap Iorwerth, Prif Sylwebydd Gwleidyddol BBC Cymru a chyflwynydd 'Good Morning Wales'. Bydd Jonsi a Dei Tomos o Radio Cymru yn eich dysgu sut i gynhyrchu, cyflwyno, ymchwilio a chyfrannu at raglen radio - a'r cyfan yn Gymraeg. Bydd y gantores a'r gyflwynwraig Meinir Gwilym yn canu rhai o'i chaneuon diweddaraf. Ydych chi'n euog o feimio'r Anthem Genedlaethol gan obeithio bod eich gwefusau yn cyd-fynd â'r geiriau? I gyd-fynd â phen-blwydd yr Anthem Genedlaethol yn 150 oed, dyma'ch cyfle i ddysgu Hen Wlad fy Nhadau a'i chanu â balchder. Bydd aelodau o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC wrth law i ddysgu'r geiriau a'r gerddoriaeth i chi. Dewch â'ch plant hefyd - bydd cyfle iddynt gwrdd â'r Bobinogi. 9.30am, dydd Sadwrn 13/5! /06 yng Ngholeg Menai, Llangefni. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch [email protected] DYSGU'R IAITH - VARDA BELKIN, ISRAEL C: O ble rydych yn dod? A: Fe ges i fy ngeni a fy magu yn Llundain, ond rwyf wedi bod yn byw yn Israel ers mwy nag ugain mlynedd. C: Pam dysgu Cymraeg? A: Rwy wastad wedi cael diddordeb mewn hanes Celtaidd, ac roeddwn i wrth fy modd yn darllen am adfywiad diwylliant Cymreig. Roeddwn i'n meddwl yr hoffwn i allu darllen hanes Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg. C: Oes unrhyw un arall yn eich teulu yn siarad Cymraeg? A: Does neb o gwbl. Rwyf yn dysgu Cymraeg ar fy mhen fy hunan. Mae fy mhlant yn chwerthin am fy mhen oherwydd fy mod wedi ennill CD o ganeuon plant yn y gystadleuaeth Catchphrase! C: Pryd sylweddoloch chi eich bod yn llwyddo? A: Nid wyf wedi sylweddoli eto! Ac wrth fyw dros ddwy fil o filltiroedd o Gymru, mae'n anodd iawn i ymarfer siarad. Ar y llaw arall, rwy'n cael cais i gyfrannu at raglenni newyddion ar Radio Cymru ambell waith. Mae'r cyfweliadau 'ma wedi fy ngorfodi i geisio siarad go-iawn.

04/04/2006 19:29

Learn Welsh newsletter - April 06

4 sur 5

Rwyf hefyd wedi ysgrifennu dwy erthygl ar gyfer y wefan "Cymru'r Byd": http://www.bbc.co.uk/cymru/tramor/straeon/israel-wlpan.shtml a http://www.bbc.co.uk/cymru/tramor/straeon/gaza.shtml C: Ble rydych yn dysgu Cymraeg? A: Yn bennaf, wrth ddefnyddio llyfrau a gwahanol gyrsiau Catchphrase. Heb y we a ffeiliau sain nid wyf yn credu y byddwn wedi medru dysgu Cymraeg. Rwy'n cadw cysylltiad ag ychydig o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ac un yn Israel, ac maen nhw'n fy nghynorthwyo i gyda phroblemau gramadeg, ac yn fodlon gwrando ar fy nghamgymeriadau yn Gymraeg. C: Unrhyw gyngor ar gyfer dysgu'r Gymraeg? A: Defnyddiwch yr iaith, cymaint ag yr ydych chi'n gwybod. Rwyf yn ceisio gorfodi fy hunan i feddwl yn Gymraeg. Pan rwy'n meddwl am rywbeth, rwy'n ceisio ailadrodd y syniad yn Gymraeg. C: Unrhyw gamgymeriadau ofnadwy wrth ddysgu'r iaith? A: Mae ymarfer siarad yn anodd iawn i mi. Felly, mae'r broblem fwyaf yn codi pan fod rhywun yn siarad â mi yn Gymraeg, a does dim syniad 'da fi ble mae un gair yn gorffen, a'r nesaf yn dechrau! C: Beth yw eich hoff air yn y Gymraeg? A: Does dim un gair yn arbennig, ond rwy'n hoffi ambell ymadrodd. Rwy'n hoffi cytgan Calon Lân: "... Dim ond calon lân all ganu ...". Ac rwy'n hoffi croesi ffin Lloegr - i mewn i Gymru - a gweld yr arwydd cyntaf yn Gymraeg: "Croeso i Gymru". C: Y peth gorau am ddysgu Cymraeg? A: Heblaw am y diddordeb mewn dysgu iaith sy mor wahanol i unrhyw iaith arall, rwyf yn ddedwydd iawn fy mod wedi cwrdd â chymaint o bobl wrth ymweld â Chymru sy'n fy nghroesawu mor gynnes pan rwyf yn dweud wrthyn nhw fy mod i'n dysgu Cymraeg. Mae unrhyw un sy'n dysgu Cymraeg yn ymwybodol, rwyf yn credu, ei fod yn rhan o "glwb" bach iawn, ond un arbennig iawn. Ac mae "aelodau" newydd yn cael eu croesawu gyda llawer o gymorth. Rwy wedi derbyn llyfrau, tapiau a phethau eraill gan ddysgwyr eraill - a gan siaradwyr Cymraeg - roedden nhw'n falch i wybod eu bod nhw wedi cynorthwyo person arall i ddysgu a gwerthfawrogi "iaith y nefoedd". DIGWYDDIADAU AR GYFER DYSGWYR 07 Ebrill - Noson i ddysgwyr yn y Cann Office, Llangadfan - gan gynnwys cwis ac adloniant. 7.30pm. 08 Ebrill - Diwrnod ar gyfer dysgwyr Cymraeg yng Nghanolfan Addysg Barhaus Aman, Cwmaman, Aberdâr. Tocyn: £10 yn cynnwys gwersi, coffi a chinio. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch [email protected] 9.30am - 4.00pm 12 Ebrill - Sioe Ffasiwn Gymraeg yng nghwmni Huw Rees. Coleg Sir Gâr, Campws Pibwrlwyd, Caerfyrddin. 7.30pm. 22 Ebrill - Taith gerdded o gwmpas Caer Caradog. Taith gymedrol o ryw 7 milltir dros Gaer Caradog a rhai o'r bryniau cyfagos. Lle chwedlonol - gwersyll olaf Caradog, gyda golygfeydd hardd dros Gefn Hirfynydd a Wenlock Edge. Cyfarfod am 10:30am ym Maes Parcio Easthope Road, Church Stretton - yr ail droad ar y chwith tu hwnt i'r orsaf reilffordd. Dewch â brechdanau a diod, a thair punt ar gyfer y peiriant tocynnau. Arweinydd: Bob Poole Cyfeirnod map OS: 453936 (OS 1:50000, Rhif.137) Cyswllt: [email protected] 23 Ebrill - Y 'Clwb Garddio' ar daith. Cyfle i holi rhai o gyflwynwyr y 'Clwb Garddio'. Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Llanarthne. 9.30am - 5.00pm. 27 Ebrill - Noson Dysgwyr Menter Caerdydd. Cyfle i ymarfer eich Cymraeg dros beint neu wydriad o win! Yn dilyn llwyddiant bore coffi wythnosol y Fenter, maen nhw'n bwriadu cychwyn noson gymdeithasol unwaith y mis i ddysgwyr sy'n dymuno ymarfer eu Cymraeg ond sy'n gweithio yn ystod y dydd. Cysylltwch â Menter Caerdydd am wybodaeth bellach - 029 20 56 56 58 neu ewch i'r wefan - www.mentercaerdydd.org 27 Ebrill - Noson yng nghwmni'r gantores Meinir Gwilym. Cofio Roc, Caernarfon. Hefyd yn y Pafiliwn Rhyngwladol, Llangollen, 29 Ebrill. 29 Ebrill - Cyngerdd gyda'r delynores Catrin Finch, Rhys Taylor, B Natural, Cantorion Ysgol Penglais a Glan Davies. Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru, Llambed. Tocynnau: £10 / £7.50. 7.30pm 29 Ebrill - Cyfle i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Coleg Powys, Y Drenewydd. 9.00am - 1.00pm. 29 Ebrill - Diwrnod sgrabl Cymraeg gyda digon o gyfle i siarad Cymraeg. Hen Gapel John Hughes, Pontrobert. 10.30am - 4.00pm

04/04/2006 19:29

Learn Welsh newsletter - April 06

5 sur 5

Os ydych yn trefnu digwyddiad ar gyfer dysgwyr, ebostiwch ni: [email protected] CYSTADLEUAETH Y GWANWYN Edrychwch am fatiau cwrw 'Learn Welsh' mewn tafarndai o gwmpas Cymru. Mae chwech ohonynt, a phob un gydag ymadrodd gwahanol, gan gynnwys "Dy rownd di". Beth mae hynny yn ei olygu yn Saesneg? (a) Cheers! (b) I'm thirsty! (c) Your round! E-bostiwch eich atebion at [email protected] erbyn Ebrill 25ain. Pob lwc! DOSBARTHIADAU CYMRAEG Os hoffech gyfarfod dysgwyr eraill, ymunwch â dosbarth lleol. Ffoniwch 0871 230 0017 i ddod o hyd i'ch dosbarth lleol. Neu anfonwch ebost at [email protected] GORFFEN DERBYN Y CYLCHLYTHYR Os hoffech orffen derbyn y cylchlythyr hwn, anfonwch ebost at [email protected] Defnyddiwch y geiriau canlynol yng nghorff yr ebost: unsubscribe learnwelsh GWASANAETHAU ALLANOL Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan allanol na gwasanaethau unrhyw asiantaethau allanol.

http://www.bbc.co.uk/ This e-mail (and any attachments) is confidential and may contain personal views which are not the views of the BBC unless specifically stated. If you have received it in error, please delete it from your system. Do not use, copy or disclose the information in any way nor act in reliance on it and notify the sender immediately. Please note that the BBC monitors e-mails sent or received. Further communication will signify your consent to this. --------------------------------------------------------------------------------------Wanadoo vous informe que cet e-mail a ete controle par l'anti-virus mail. Aucun virus connu a ce jour par nos services n'a ete detecte.

04/04/2006 19:29